Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Chwefror 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5426
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 a 7 gan y Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.21
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Gofyn i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth llety ar gyfer pobl sy'n gadael carchar Caerdydd yng ngoleuni'r adroddiad diweddaraf gan y Bwrdd Monitro Annibynnol?
Dechreuodd yr eitem am 15.20
Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad am - Dymuno pob lwc i’r Nomads (ei dîm pêl-droed lleol) cyn eu gêm gynderfynol yng Nghwpan Irn Bru (yr unig dîm o Gymru yn y gystadleuaeth) a dymuniadau gorau i Gasnewydd cyn y gêm yn erbyn Manchester City.
Gwnaeth Suzy Davies ddatganiad am - Defibruary – ymgyrch a gaiff ei threfnu gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ym mis Chwefror bob blwyddyn i annog pobl a sefydliadau i ystyried gosod diffibriliwr, codi arian i brynu un, a rhoi cyhoeddusrwydd i’r diffibrilwyr sydd ar gael o amgylch Cymru y gall y cyhoedd eu defnyddio mewn achos brys.
Dechreuodd yr eitem am 15.23
NDM6971 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol Delyth Jewell (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
NDM6972 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Delyth Jewell (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru).
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.23
Dechreuodd yr eitem am 16.14
NDM6965 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 – a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.02
NDM6967 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddal gafael llawn ar Grant Byw'n Annibynnol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6966 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai carchardai fod yn fannau diwygio ac adsefydlu, ac mai'r carchar yw'r gosb ar gyfer y rhai a gaiff eu dyfarnu'n euog o drosedd.
2. Yn penderfynu na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
1 |
34 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai carchardai fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu.
2. Yn cefnogi’r egwyddor o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn disgwyl am adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
15 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6966 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai carchardai fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu.
2. Yn cefnogi’r egwyddor o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn disgwyl am adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
4 |
10 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.35
Cododd Jane Hutt AC Bwynt o Drefn o dan Reol Sefydlog 12.37 yn nodi ei bod wedi mynegi gwrthwynebiad i NDM6967 (dadl Plaid Cymru – Grant Byw’n Annibynnol Cymru) gael ei dderbyn heb ei ddiwygio a gofynnodd i’r Llywydd egluro statws y cynnig hwnnw.
Ymatebodd y Llywydd drwy ddatgan nad oedd hi na’r Clercod wedi clywed y gwrthwynebiad a bod y cynnig heb ei ddiwygio wedi ei dderbyn eisoes fel y cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.36. Fodd bynnag, nododd y Llywydd y gwrthwynebiad a chadarnhaodd fod safbwynt y Llywodraeth bellach yn fater i’r cofnod.
Dechreuodd yr eitem am 18.36
Dechreuodd yr eitem am 18.39
NDM6962 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Deddfwriaeth ansawdd aer sy'n addas ar gyfer heriau modern.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.03
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2019